Thursday 27 December 2007

Gogledd y Dordogne

Yn ol y Sais a'i wraig y cawsom fwyd yn eu bar yn Chalus ar y noswaith gyntaf, y Dordogne ydi rhan gwlypaf Ffrainc. Mae gen i ddau reswm i feddwl bod y datganiad yma'n weddol agos at ei le. Yn gyntaf mae'r gwair yn wyrdd yno hyd yn oed yn yr haf. Dydi hyn ddim yn gyffredin iawn yn Ffrainc. Yn ail cawsom wythnos ddi dor bron o law, ac roedd hynny yng nghanol mis Awst.

Treulio'r diwrnod cyntaf yn Perigueux, tref eithaf sylweddol gyda thua 65,000 o drigolion. Fel llawer o drefi Ffrengig mae darnau hynafol iawn iddi - yn yr achos yma mae rhannau o'r dref yn mynd yn ol i'r cyfnod Rhufeinig. Yn anffodus nid oedd y lle ar ei orau ar y diwrnod yr oeddem ni yno gan iddi biso bwrw trwy'r dydd. Adeilad mwyaf trawiadol y dref yw eglwys gadeiriol y Cathederale St Front sydd a rhannau ohoni'n dyddio'n ol i'r ddegfed ganrif.





Un o leoedd prydferthaf Gogledd y Dordogne ydi Brantome - tref fechan ddeniadol wedi ei chodi o gwmpas afon. Nodwedd fwyaf trawiadol y dref ydi Abaty Benedictaidd sydd wedi ei adeiladu i mewn i'r graig.






Mae ogof gerllaw - mae cyfoeth o ogofau ar hyd De Ffrainc i'r sawl sy'n ymddiddori yn y ffurfiau naturiol sy'n cael eu creu mewn ogofau carreg galch ac yn y bobl gynnar oedd yn aml yn byw ynddynt.



Mae St John de Cole yn un o nifer o bentrefi hynafol a hardd iawn yng Ngogledd y Dordogne. Mae iddo gastell, sgwar prydferth, Eglwys sydd bron yn gwbl grwn (gyda Safleoedd y Groes y tu allan i'r adeilad)a strydoedd bach prydferth hynafol.





Dinas sylweddol o tua chwarter miliwn o bobl ydi Limoges. Mae'n ganolfan draddodiadol i gynhyrchu porselin ac enaml i gyfoethogion Ffrainc a thu hwnt - ac o sylwi ar y prisiau gallaf eich sicrhau mai ar gyfer pobl gyfoethog maent yn cael eu cynhyrchu ar y cyfan. Os oes gennych ddiddordeb yn y math yma o beth y cwrs callaf ydi ymweld a'r Musee National Adrien Dubouche.



Mae llawer o'r dref yn hynafol, ond y rhan mwyaf trawiadol efallai yw'r Rue de Boucheire, stryd a oedd yn y gorffennol wedi ei phoblogi yn bennaf gan gigyddion a'u teuluoedd. Yng nghanol yr ardal ceir capel bychan digon hardd - y Chapel St Aurlien. Sant Aurlien fe ymddengys yw nawdd sant cigyddion. Mae'r capel wedi ei gynnal gan gigyddion a'u teuluoedd o'r bymthegfed ganrif hyd heddiw.







Castell o gyfnod y Dadeni yw Chateau Puyguilhem sydd wedi ei leoli wrth ymyl coedwig dderw hyfryd. Mae iddo nenfwd o ddistiau derw trawiadol.





Rhywbeth tebyg i Sain Ffagan ydi Le Village Bournat - ond heb fod cystal o lawer. Serch hynny mae digon i'w wneud yno i lenwi diwrnod - os ydi'r tywydd yn braf. Mae'r parc yn Ne'r Dordogne a chryn bellter o'r lleoedd rwyf eisoes wedi son amdanynt.








Rhywle arall yn ne'r Dordogne ydi'r em o dref - Sarlat Yr unig anfantais i'r lle yma ydi ei bod yn gallu bod yn llawn iawn yn yr haf, ond ceir amrywiaeth sylweddol o dai bwyta, siopau diddorola stondinau marchnad yma mewn lleoliad diddorol a chanol oesol.



No comments: