Thursday 27 December 2007

Paris

Blog cwta y tro hwn.

Treulio ychydig ddyddiau ym Mharis a mynd i weld rhai o'r pethau twristiaid arferol -yr oriel gelf modern sy'n edrych fel petai tu chwithig allan - Canolfan Georges Pompidou. Mae gen i wendid anffodus am dynnu lluniau mewn orielau ac ati pan nad ydwyf i fod i wneud hynny. Doedd dim cyfle i dynnu fawr o luniau am bod diogelwch yn dyn, ond llwyddais i gael y canlynol:














Mae'r lluniau eraill o rai o drapiau twristiaid arferol Paris - Twr Eiffel a'r Afon Seine.









Gogledd y Dordogne

Yn ol y Sais a'i wraig y cawsom fwyd yn eu bar yn Chalus ar y noswaith gyntaf, y Dordogne ydi rhan gwlypaf Ffrainc. Mae gen i ddau reswm i feddwl bod y datganiad yma'n weddol agos at ei le. Yn gyntaf mae'r gwair yn wyrdd yno hyd yn oed yn yr haf. Dydi hyn ddim yn gyffredin iawn yn Ffrainc. Yn ail cawsom wythnos ddi dor bron o law, ac roedd hynny yng nghanol mis Awst.

Treulio'r diwrnod cyntaf yn Perigueux, tref eithaf sylweddol gyda thua 65,000 o drigolion. Fel llawer o drefi Ffrengig mae darnau hynafol iawn iddi - yn yr achos yma mae rhannau o'r dref yn mynd yn ol i'r cyfnod Rhufeinig. Yn anffodus nid oedd y lle ar ei orau ar y diwrnod yr oeddem ni yno gan iddi biso bwrw trwy'r dydd. Adeilad mwyaf trawiadol y dref yw eglwys gadeiriol y Cathederale St Front sydd a rhannau ohoni'n dyddio'n ol i'r ddegfed ganrif.





Un o leoedd prydferthaf Gogledd y Dordogne ydi Brantome - tref fechan ddeniadol wedi ei chodi o gwmpas afon. Nodwedd fwyaf trawiadol y dref ydi Abaty Benedictaidd sydd wedi ei adeiladu i mewn i'r graig.






Mae ogof gerllaw - mae cyfoeth o ogofau ar hyd De Ffrainc i'r sawl sy'n ymddiddori yn y ffurfiau naturiol sy'n cael eu creu mewn ogofau carreg galch ac yn y bobl gynnar oedd yn aml yn byw ynddynt.



Mae St John de Cole yn un o nifer o bentrefi hynafol a hardd iawn yng Ngogledd y Dordogne. Mae iddo gastell, sgwar prydferth, Eglwys sydd bron yn gwbl grwn (gyda Safleoedd y Groes y tu allan i'r adeilad)a strydoedd bach prydferth hynafol.





Dinas sylweddol o tua chwarter miliwn o bobl ydi Limoges. Mae'n ganolfan draddodiadol i gynhyrchu porselin ac enaml i gyfoethogion Ffrainc a thu hwnt - ac o sylwi ar y prisiau gallaf eich sicrhau mai ar gyfer pobl gyfoethog maent yn cael eu cynhyrchu ar y cyfan. Os oes gennych ddiddordeb yn y math yma o beth y cwrs callaf ydi ymweld a'r Musee National Adrien Dubouche.



Mae llawer o'r dref yn hynafol, ond y rhan mwyaf trawiadol efallai yw'r Rue de Boucheire, stryd a oedd yn y gorffennol wedi ei phoblogi yn bennaf gan gigyddion a'u teuluoedd. Yng nghanol yr ardal ceir capel bychan digon hardd - y Chapel St Aurlien. Sant Aurlien fe ymddengys yw nawdd sant cigyddion. Mae'r capel wedi ei gynnal gan gigyddion a'u teuluoedd o'r bymthegfed ganrif hyd heddiw.







Castell o gyfnod y Dadeni yw Chateau Puyguilhem sydd wedi ei leoli wrth ymyl coedwig dderw hyfryd. Mae iddo nenfwd o ddistiau derw trawiadol.





Rhywbeth tebyg i Sain Ffagan ydi Le Village Bournat - ond heb fod cystal o lawer. Serch hynny mae digon i'w wneud yno i lenwi diwrnod - os ydi'r tywydd yn braf. Mae'r parc yn Ne'r Dordogne a chryn bellter o'r lleoedd rwyf eisoes wedi son amdanynt.








Rhywle arall yn ne'r Dordogne ydi'r em o dref - Sarlat Yr unig anfantais i'r lle yma ydi ei bod yn gallu bod yn llawn iawn yn yr haf, ond ceir amrywiaeth sylweddol o dai bwyta, siopau diddorola stondinau marchnad yma mewn lleoliad diddorol a chanol oesol.



Sunday 9 December 2007

Languedoc Roussillion

Croesi'r dwr o Folkstone i Callais ar yr Eurotunnel. Rhyfeddol o gyflym a di drafferth - er ei bod yn eithaf pell i yrru o Ogledd Cymru i Folkstone.

Yna gyrru'n syth o Callais i Lille, dinas sydd heb fod ymhell o'r arfordir gyda gwlad Belg. O edrych o gwmpas y ddinas daw'n amlwg yn syth bod ethos Fflemeg iddi, gyda thu blaen siopau ac adeiladau cyhoeddus wedi eu cynllunio mewn arddull Fflemeg -yn arbennig felly yr hen adeiladau. Roedd rhyw olwg digon gwahanol ar y trigolion hefyd o gymharu a De neu Orllewin Ffrainc - crwyn golau a gwalltiau golau iawn yn gyffredin.



Dranoeth gyrru ar draws y wlad fawr yma i'r pentref y byddwn yn aros yno am wythnos - L'Estargelle. Mae Estagel yn y Gatalonia Ffrangeg, ond yn agos at y ffin gyda L'adoc.



Estagel

Pentref Ffrengig digon cyffredin ydi Estagel - hen adeiladau yn bennaf, eglwys hynafol yng nghanol y pentref gyda chloch sy'n canu pob chwarter awr, dwy siop fara, cigydd, ychydig o fariau a thai bwyta, siop gwerthu cynyrch lleol - cawsydd, pates ac ati, siop win, archfarchnad fechan, a stondinau ar ochr y ffordd sy'n gwerthu pysgod, ffrwythau, llysiau ac ati.

Mae pob amser yn syndod i rhywun o Gymru sydd wedi arfer at bentrefi heb siop nag yn wir unrhyw sefydliad arall bod cymaint mewn pentrefi Ffrangeg, gyda hyd yn oed y pentrefi lleiaf efo bar a siop fara.

Wedyn ymweld a phentref mawr / tref fechan Tautavel. Eto er nad ydi'r lle yn fawr iawn mae digon o lefydd gwerthu yno - yn arbennig felly caves a llefydd bwyta. Nid yw'r siopau gwin yn syndod mawr gan fod y dref wedi ei hamgylchynu gan filoedd o aceri o winllanoedd. Mae masnachu gwin yn gonglfaen i'r economi yma.







Ceir amgueddfa fechan ond digon trawiadol. Ymddengys i beth o weddillion dynol hynaf y byd gael eu darganfod yno, ac mae'r amgueddfa yn gwneud y mwyaf o'r ychydig esgyrn a chreiriau hynny.






Dranoeth ymweld a phrif dref Catalonia Ffrangeg - Perpignon. Mae'r dref yn ddiddorol am sawl rheswm - gan gynnwys cefndir ethnig ei thrigolion. Ceir llawer o fewnfudwyr o'r byd Moslemaidd yno. Ond ceir llawer o bobl eraill hefyd - gan gynnwys ffoadduriaid o'r ochr Sbaeneg o Gatalonia yn dilyn rhyfel cartref y wlad honno, a phobl wyn oedd wedi setlo yn Algeria yn y blynyddoedd cyn iddi ennill ei rhyddid - ond oedd yn gorfod ffoi wedi hynny. Mae'n debyg gen i bod yr hanes cymysg hwn ymhlith y rhesymau pam bod y ddinas bach, boblog, boeth yma ymhlith y lleoedd lle mae pleidlais Front Nationale Le Penn gyda'r cryfaf yn Ffrainc.



Yn gyffredin a llawer o hen drefi Ffrainc sydd wedi eu lleoli yn agos at hen ffiniau gwleidyddol ceir castell sylweddol ynao. Ceir hefyd dwr sy'n rhan o furiau dref. Mae'r twr bellach wedi ei droi'n amgueddfa. Ceir arddangosfeydd amrywiol sy'n ymwneud a hanes ardal Perpignon yn bennaf - celfi, offer, arteffactau crefyddol ac ati. Un o'r arddangosfeydd mwyaf trawiadol efallai yw un yn ymwneud a chriw o bobl ifanc aeth i Alsasce Lorraine ac ennill cystadleuaeth dawnsio, ond a laddwyd mewn damwain bws ar y ffordd adref.






Dranoeth gyrru trwy wlad y Cathars yn Languedoc. Daeth cyfnod y Cathars yn Ne Ewrop i ben mewn storm o dywallt gwaed gyda'r gwaethaf yn hanes Ewrop (ac mae cryn gystadleuaeth yma). Roedd y rhesymeg y tu ol i'r groesgad yma'n gymhleth, ac yn gyfuniad o ymysodiad gan dywysogion y Gogledd o dan arweinyddiaeth Simon de Montford ar rai'r De am resymau traddodiadol (concwest) ynghyd ag ymysodiad gan Babyddiaeth yn erbyn heresi crefyddol oedd mewn gwirionedd yn adlewyrchu hen, hen hollt deallusol a chrefyddol yn y byd Cristnogol. Hollt oedd yn mynd yn ol at ddyddiau cynnar Cristnogaeth a'r traddodiad Gnostaidd.

Roedd gan dywysogion y De gadwyn o geiri wedi eu hadeiladu yn uchel ym mynyddoedd y Pyrenees. Caer felly oedd Puilaurens - ac o edrych ar ei maint a'i lleoliad yn nannedd y graig mae'n hawdd gweld pam bod y ceiri hyn yn ymylu at fod yn anorchfygol.





Edrych i lawr ar y byd o Puilaurens.



Beth bynnag am gryfder y ceiri, ofer fu'r ymdrech i achub y Catariaid yn y diwedd, a chafodd y ffydd Cataraidd ei ddiddymu'n llwyr.

Aros yn Alet-les-Bains am sbel ar y ffordd yn ol - pentref hynafol gyda gweddillion abaty ac eglwys yn ogystal a nifer o adeiladau canoloesol mewn cyflwr arbennig o dda.





Ar y ffordd yn ol i Estagel mynd trwy dwnel a dyllwyd gan offeiriad gyda morthwyl a chyn tros gyfnod o flynyddoedd maith. O weld y dysteb anhygoel yma i ddycnwch a phenderfyniad, ymddengys i Napoleon wneud sylw bod yr creadur wedi ei wastraffu ar yr offeiriadaeth. Touche.

Drannoeth croesi'r ffin gyda Sbaen, a mynd i dref sydd wedi ei thrafod yn y blog hwn o'r blaen Figueres. Wele mwy o luniau o Amgueddfa
Dali:



.

Y diwrnod wedyn mynd i Collioure ar ddiwrnod yr wyl flynyddol, tref a gwyl sydd wedi eu trafod yma yn gynharach. Hwyrach mai nodwedd hynotaf yr wyl ydi'r sioe dan gwyllt ar ddiwedd y noson. Bydd miloedd ar filoedd o bobl yn ymgynyll i'w gweld - ceir pobl ym mhob man, ar y strydoedd, ar falconis y tai, ar y creigiau ac ar y traeth. Yn wir mae cymaint o bobl ar y traeth, nad oes prin le i symud yno.









Dranoeth croesi'r ffin unwaith eto i'r rhan Sbaeneg o Gatalonia a mynd i Gerona y tro hwn. Ar y ffordd yn ol aros am ychydig yn ???. Mae'r lle yn ganolfan cerameg eithriadol, gyda dwsinau o siopau cerameg - rhai ohonynt yn enfawr o ran maint ar hyd y brif stryd.





Ar y diwrnod olaf cyn gadael am y Dordogne mynd am dro i Gorges D'Arago - afon yng nghanol gwinllanoedd lle bydd llawer o bobl yn ymgynyll i nofio. Bydd Ffrancwyr yn aml yn osgoi traethau yn ystod yr haf oherwydd y prysurdeb ac yn nofio mewn llynoedd neu afonydd ymhell o'r mor. Mae'r fan hyn yn esiampl digon dymunol o hyn.