Friday 30 May 2008

Taith i Iwerddon yn yr hydref

Torri’r daith ar draws yr ynys trwy aros yn nhref fechan Endenderry yn Offaly. Lleolir y dref yng nghadarnle etholiadol taiseach newydd Iwerddon – Brian Cowan. Fel Biffo Cowan y bydd y dyn yn cael ei adnabod ar lawr gwlad. Saif Biffo am big, ignorant, fat, fucker from Offaly. Da gweld nad ydi pob hen arwydd ffordd ar yr ynys wedi ei ddwyn a’i werthu i dafarnau 'Gwyddelig' ar y cyfandir.



Gyrru o Endenderry tua’r gorllewin ar hyd hen lon sydd a chors fawn yn cyd redeg a hi. Mae rhywbeth neilltuol Wyddelig am gorsydd mawr. Roedd yn amlwg fod y mawn yn cael ei gloddio (os mai dyna’r ansoddair priodol). Mae’n debyg mai llosgi mawn ydi un o’r prif ffyrdd o gynhyrchu trydan yn yr Iwerddon hyd heddiw, a cheir bwrdd - Bord na Mona sy'n gyfrifol am wneud defnydd masnachol o fawn. Gyda phrisiau olew a nwy yn gyffredinol mor uchel erbyn heddiw, mae’n dra thebygol bod mwy o ddyfodol i’r diwydiant mawn yn Iwerddon – yn union fel y diwydiant glo yng Nghymru.



Wedi ychydig oriau ar y ffordd cyrraedd Limerick, neu Stab City fel y bydd yn cael ei alw oherwydd bod y lle yn enwog am drais a thor cyfraith. Mae’n debyg gen i bod y rhan fwyaf o’r ddinas mor barchus ag unrhyw le arall yn y wlad, ond mae stad Moyross ar gyrion y dref gyda’r llefydd mwyaf treisgar yn Ewrop.

Mynd i Faes Awyr Shannon i nol mam a modryb y wraig, cyn mynd i Galway a chael pryd yn nhafarn An Pucan– tafarn yr ydwyf eisoes wedi son amdano.


Mynd i siopa’r bore wedyn yn Ninas Galway. Y ganolfan siopa dan do ydi’r unig un y gwn i amdani sydd gyda wal ganoloesol yn rhan greiddiol ohoni. Mae Dinas Galway yn amhrydeinig iawn o ran naws, ac mae'n ddinas gwahanol iawn i Ddulyn.



Gyrru wedyn i’r de tuag at ran anarferol iawn o’r Gorllewin – ardal y Burren. Mae'r ardal wedi ei lleoli ar deresau o garreg galch, ac mae'n gynefin i amrywiaeth eang o blanhigion sy'n cael eu cysylltu a lleoedd gwahanol iawn yn Ewrop gan amlaf.

Aros am ychydig ar y ffordd ger Kinvarra yng Nghastell Dungaire. Fel Cymru mae gan yr Iwerddon gyfoeth o gestyll, sy'n sefyll fel tystion mud i orffennol llai na heddychlon.



Mae rhyw ymdeimlad o fod ar blaned arall yn y Burren, gyda’i dirwedd unigryw.Yna ymweld ag ogof Aillwee yn y Burren. Er syndod roedd y cyntedd yn atseinio efo’r Gymraeg – roedd taith gan Silver Star yn mynd rhagddi. Mae’n eironi trist bod dyn yn fwy tebygol o glywed y Gymraeg yn yr Iwerddon nag ydyw o glywed y Wyddeleg. Cael sgwrs gyda Tom Ellis, cynghorydd Trawsfynydd.



Siomedig braidd mae gen i ofn oedd yr ogof. ‘Dydi hi ddim yn yr un cae ag ogofau mawr Ffrainc, ond mae’r ffaith ei bod mor llawn o ymwelwyr yn adrodd cyfrolau am allu’r Gwyddelod i farchnata deunydd crai sy’n aml yn ddigon di ddim. Mae gennym ni yng Nghymru gryn dipyn i’w ddysgu. Mynd ymlaen tuag at Glogwyni Moher, ond aros wrth Eglwys Kilfenora i weld y croesau canoloesol. Nifer o siopau bach yn Kilfera, siopau gwerthu dillad ac ati. Mae rhyw deimlad yn llawer o’r Iwerddon wledig o’r Gymru honno sydd bellach wedi marw, pentrefi gyda man siopau ynddynt. Y patrwm cyffredinol yng Nghymru erbyn heddiw ydi un o bentrefi gyda phrin siopau o unrhyw fath ynddynt.



Er ffaeleddau Ogof Aillwee mae'r clogwyni yn wirioneddol drawiadol.



Aros ar y ffordd yn ol am swper ym mhentref Doolin. Mae’r pentref yn lled enwog oherwydd ei gysylltiadau gyda chanu gwerin Gwyddelig . Distaw iawn oedd hi yno ar y noson arbennig yn yr hydref yr oeddem ni yno, ond efallai y byddai wedi prysuro yn hwyrach.



Y diwrnod wedyn ymweld a safle cwbl ryfeddol Clomacloise, safle mynachlog o'r chweched ganrif ac un o’r safleoedd mwyaf syfrdanol ar yr ynys. Adeiladwyd mynachdy ar ar lan yr Afon Shannon gan Sant CiaranSant Ciaran yn y flwyddyn 545. Tros y canrifoedd tyfodd dinas o adeiladau crefyddol yno tros y canrifoedd. Daeth hefyd i fod yn fan claddu Uchel Frenhinoedd Tara. Daeth y Pab yma yn 1979.







Galw ar y ffordd yn ol yn Kilkenny - dinas digon hardd o 25,000 a thros i gant o dafarnau. Yr adeilad mwyaf trawiadol yn y lle mae'n debyg gen i ydi Eglwys Anglicanaidd St Canices a'r twr crwn sydd wrth ei ochr. Un o'r pethau mwyaf trawiadol i mi oedd y ffaith bod taflenni gwybodaeth y tu mewn ym mhob iaith dan haul - gan gynnwys y Gymraeg.

Gorffen y daith yn Nulyn gydag ychydig o siopa - anodd meddwl am ddau le mor gwahanol o ran adeiladwaith na chanolfan siopa enfawr St Stephen's Green ag adeiladau Clomacloise.



Ymweliad sydyn a'r Amgueddfa Genedlaethol cyn mynd adref, ac er syndod cael fy hun yn ol ym myd y corsydd mawn. Roedd arddangosfa o wrthrychau a chyrff neolithic oedd wedi eu godi o rai ohonynt. Ach a fi.