Friday 24 December 2010

Peter Black o'r farn bod y Toriaid yn nutters

Un rhyfedd ydi Peter Black. Fe glywsom wythnos diwethaf ei fod yn ystyried Leighton Andrews yn cretin, ond ymddengys ei fod hefyd yn ystyried partneriaid ei blaid yn San Steffan yn nutters. Wnaeth o ddim trafferthu i egluro pam bod ei blaid wedi mynd i bartneriaeth a rhedeg y DU yng nghwmni nutters - ond dyna fo.

Mae'n drist gweld Peter mor flin, cegog a ffraegar a hithau'n dymor o ewyllys da fel hyn. Tybed os oes yna rhywbeth ar ei feddwl?

Arweinydd plaid Peter yng Nghymru efo dau nutter.

Thursday 23 December 2010

Ballycastle

x
Mi ddisgrifiodd rhyw foi mewn tafarn yn Ballycastle y dref yn y termau hyn - Mae fel petai rhywun wedi mynd at dref bach yng Ngorllewin Iwerddon, yn Galway neu Kerry efallai, yc wedi ei godi, ei symud i ochr arall y wlad a'i ollwng. Ac mae yna lawer iawn o wirionedd yn yr hyn mae'n ei ddweud - o ran diwylliant mae'r dref yma yn hynod Wyddelig, ond mae wedi ei lleoli yng Ngogledd Ddwyrain yr ynys. Mae llawer o'r ardal arbennig - Moyle - wedi bod a phoblogaeth Pabyddol erioed, er iddi gael ei hamgylchu gan rai o'r ardaloedd mwyaf di gyfaddawd o Unoliaethol yng Ngogledd Iwerddon. Mae Moyle yn etholaeth Ian Paisley, North Antrim. Mae'r ardal yn un hynod o drawiadol, gyda thir arfordirol nodweddiadol o Orllewin Iwerddon a dyffrynoedd anghysbell gyda choedwigoedd, afonydd, llwybrau a golygfeydd.

Torr Head ydi'r lle agosaf yn Iwerddon at dir mawr yr Alban - maent tua deuddeg milltir oddi wrth ei gilydd. Mae'r ardal yn enwog ar bysgota eog a gellir gweld rhwyd wedi ei osod ar draws y bae i ddal eogiaid sy'n dychwelyd o'r mor mawr i afonydd eu cynefin er mwyn dodwy. Ceir planhigion Fuchsia - mewnfudwyr o blanhigion sy'n hoff iawn o dir arfordirol lle nad ydi'r tywydd yn eithafol o oer yn aml. Mae gorsaf gwylwyr y glanau sy'n dominyddu'r penrhyn wedi ei leoli ar safle hen gaer, ac mae yna feddi neolithic yn yr ardal hefyd.


Nodwedd arall o'r ardal ydi Ynys Rathlin oddi ar arfordir y Gogledd. Mae'r Ynys yn enwog yn hanes Iwerddon oherwydd cyflafan a ddigwyddodd yno yn 1642. Mae yna rai canoedd o bobl yn byw ar yr ynys o hyd. Tua phymtheg milltir yn unig ydyw o dir mawr yr Alban. Mae'r lle yn enwog am ei hadar ac am ei chlogwynni.












Friday 21 May 2010

Argraffiadau o Belfast

Dau lun o gynteddau ysblenydd Neuadd y Ddinas - y Dome of Delights yng ngeiriau Máirtín Ó Muilleoir, dyn oedd yn ddigon anffodus i fod yn gynghorydd yno pan oeddyr anghytuno gwleidyddol yn ei anterth. Mae'r adeilad yn symbol o ddomiwnyddiaeth y traddodiad unoliaethol o wleidyddiaeth Belfast. Mae yna fwyafrif Pabyddol yn y ddinas bellach, ac mae'n debyg na fydd yna fwyafrif o unoliaethwyr ar Gyngor Belfast byth eto.




Y Shankill, canolbwynt y traddodiad unoliaethol yng Ngorllewin y ddinas. - fel y Falls mae yna furluniau ar hyd


Stormont - symbol arall o oruwchafiaeth unoliaethol. Bellach mae'r drefn etholiadol yn sicrhau cydraddoldeb poenus o gysact rhwng llwythi'r Gogledd.

Harland & Wolf, gwaith adeiladu llongau mawr sydd wedi ei leoli yn nwyrain y ddinas - gweithle oedd yn draddodiadol enwog rydd o Babyddion. Yma y cafodd y Titanic - a llawer iawn o longau enwog eraill eu hadeiladu.

Rhai o'r murluniau sy'n britho ardaloedd dosbarth gweithiol Belfast. Murluniau Teyrngarol ydi'r rhain o gwmpas canolbwynt y gymuned unoliaethol yng Ngorllewin Belfast, y Shankill.


Yr Upper Falls yn ystod cyfnod etholiad.



Murluniau o'r Lower Falls, y wal ryngwladol a'r murlun enwog o Bobby Sands. Y cymunedau y naill ochr a'r llall i'r Lower Falls oedd calon ac enaid y gwrthryfel hir yn y Gogledd.


Mynwent Milltown - rhywle oedd ar y teledu dragwyddol yn nhri degawd olaf y ganrif ddiwethaf.


Cofeb i aelodau'r IRA yn y ddinas a laddwyd yn ystod yr helyntion. Mae'r rhestr yn un faith.


Un o rannau milwrol Milltown - llecyn y Provisional IRA.