Tuesday 24 July 2007

Teithio yn yr Iwerddon

Pasg 2007

Nos Sadwrn

Gyrru o Borthladd Dulyn yn ddigon di drafferth. Cael hyd i rhywle i aros yn syth bron a mynd i’r dref i chwilio am fwyd. Cael pryd yn An Pucan. Lowri, y ferch yn cerdded i mewn ar ol tua deg munud – datblygiad anisgwyl a dweud y lleiaf gan nad oedd Lowri yn gwybod ein bod ni yn yr Iwerddon, a chyn belled ag y gwyddom ni roedd Lowri yng Kilkenny – can milltir i ffwrdd. Mae’n debyg y dyliwn fod wedi gwneud y loteri yn y fan a’r lle.





Cwch y tu mewn i An Pucan

Mynd ymlaen am beint i Tig Coili. Fy ngrys Llanelli yn gwneud argraff ar griw o hogiau o Swydd Cork – Look, a Llanelli bastard. Roedd Llanelli newydd guro Munster yng nghwpan Heineken. A finnau’n meddwl y byddwn i’n saff efo fy nghrys Scarlets yn Connacht.

Dydd Sul



Gyrru trwy Connemara, golygfeydd trawiadol, ond tebyg mewn rhai ffyrdd i adref. Aros yn y Roundstone am fwyd, ac ymweld a siop grefftau sy’n arbenigo mewn llunio bodhran. Y gwneuthurwr gorau yn Iwerddon yn ol y cyhoeddusrwydd.



Mynwent yn Connemara - y rhan fwyaf o'r beddi wedi eu dynodi gyda carreg fechan di addurn yn unig.

Aros yn Westport, Swydd Mayo. Tref fywiog llawn tafarnau, aros yn un. Cael peint yn un o dafarnau mwyaf adnabyddus y Gorllewin – Matt Molloys. Tafarn bywiog a phrysur mewn tref fywiog a phrysur.




Dydd Llun

Edrych o gwmpas Swydd Mayo. Mayo oedd y rhan o’r Iwerddon a ddioddefodd waethaf o ganlyniad i’r newyn mae’n debyg. Mae cofeb cenedlaethol hynod drawiadol yn y llonyddwch gwledig rhwng Croach Patrick a’r arfordir gyda’i adfeilion eglwysig. Rhyfedd meddwl wrth edrych o gwmpas ar y tai newydd drydfawr sydd i’w gweld ym mhob twll a chornel o’r sir wledig enfawr yma, nad oes rhaid mynd ymhell iawn yn ol i gyrraedd cyfnod lle’r oedd miloedd o gyrff yn pydru’n ddistaw ar ochrau’r lonydd am nad oedd neb i gladdu’r meirw.





Cychwyn yn ol i Galway, ond aros yn Ballina i weld bedd Michael Gaughan a Frank Stagg. Bu farw’r ddau ar ympryd newyn yng Ngharchar Wakefield? – y nail yn 1974 a’r llall yn 1976. Bu farw Michael yn gyntaf, nid oherwydd newyn, ond oherwydd i’w ysgyfaint gael ei hollti wrth i bibellau oedd yn cael eu defnyddio i’w orfodi i gymryd maeth fynd ar goll wrth i’w warchodwyr geisio ei orfodi i fwyta.

Rhoddwyd y gorau i’r arfer o ganlyniad i hyn, a bu farw Frank o newyn. Mae hanes ei gynhebrwng yn dysteb i pam mor hynod o ben galed y gall Gwyddelod fod pan maent yn rhoi eu meddwl iddo.

Anfonwyd corff Frank adref trwy Ddulyn. Roedd yr awdurdodau yn benderfynol na chai gynhebrwng milwrol fel y cafodd Michael. Cymerwyd meddiant o’r corff gan y wladwriaeth a’i symud i Ballina i’w gladdu. Fe’i claddwyd gan yr awdurdodau a’i orchuddio gyda haenen o goncrit. Cafodd y bedd ei warchod am fisoedd am 24 awr y diwrnod gan yr heddlu.

Yn fuan wedi i’r heddlu gael eu symud clywyd swn ergydion gynnau yn dod o’r fynwent. Roedd yr IRA wedi tyllu twnel o dan yr haenen goncrit ac wedi symud arch Frank i fedd Michael ac wedi rhoi cynhebrwng milwrol iddo yn nyfnder nos.

Dychwelyd i Galway a gweld Lowri – yn fwriadol y tro hwn yn An Pucan. Mynd i wrando ar gerddoriaeth yn Taffes. Dwy ddynes rhyfeddol o feddw yn dawnsio / disgyn i’r gerddoriaeth – ond un serch hynny yn llwyddo i gynhyrchu camau bychain, cywrain, cywir. Byddai werth ei gweld yn dawnsio petai’n sobor.

Dydd Mawrth



Llwyddo trwy rhyw wyrth i ddal cwch i Inishmore – yr ynys fwyaf o’r ynysoedd Aran. Ar wahan ei fod y lle cyntaf i mi glywed Gwyddelig yn cael ei siarad yn naturiol yn yr holl flynyddoedd rwyf wedi bod yn ymweld a’r Iwerddon, mae’n lle anhygoel am sawl rheswm arall.



Byd o gerrig – carreg galch. Pridd tenau, dim afonydd gan fod y garreg yn un athraidd. Dim coed – y pridd rhy denau a’r gwyntoedd rhy gryf. Y tir yn mynd i lawr tua’r mor yn allt addfwyn tua’r dwyrain, ond clogwyni enfawr yn wynebu dannedd yr Iwerydd tua’r gorllewin. Mewn ambell i le gellir gweld cerrig anferthol ar ben y clogwyni. Tystiolaeth tawel i rym rhyfeddol y tonnau hynny ganoedd o droedfeddi islaw – cawsant eu taflu i fyny oddi ar wely’r mor, ganoedd o droedfeddi islaw. Does yna ddim ty, nag adeilad yn agos at orllewin yr ynys.

Ceir tystiolaeth o’r ugeiniau o genedlaethau sydd wedi crafu bywoliaeth o’r tir tenau a berw’r mor mawr ar ffurf adfeilion ar hyd yr ynys. Mae llawer o’r adfeilion hyn yn rhai eglwysig – eglwysi a mynachlogydd – gweddillion byd defosiynol, Pabyddol sydd wedi hen ddadfeilio – fel yr adeiladau eu hunain.






I mi y peth mwyaf trawiadol am y lle ydi’r cloddiau – cloddiau bychain yn amgylchu caeau bychain iawn – caeau gyda dau neu dri anifail yn amlach na pheidio. Maent yn edrych yn ddigon bregys – un haenen o gerrig bychain gyda thyllau ynddynt yn aml. Pan mae gwynt, gellir ei glywed yn chwibanu trwy’r tyllau. Ond o edrych yn fanwl mae’n amlwg eu bod yn ddigon cadarn, ac o edrych o gwmpas does dim tystiolaeth o waliau’n dadfeilio – yn gwahanol iawn i adref. Does yna ddim gatiau – mae pob cae yn cael ei gau trwy lenwi’r bwlch sy’n arwain ato gyda cherrig.



Nodwedd arall o'r ynys ydi adfeilion ceiri hynafol. A dweud y gwir ceir mwy nag adfeilion weithiau - mae rhai o'r ceiri'n dal i sefyll - megis Dun Aengus isod.



Un gofeb sy'n dweud llawer am fywyd yr ynys yw'r un i gofio'r dwsinau o forwyr a gollwyd tros y blynyddoedd ar y mor. Mae'r rhan fwyaf o'r negeseuon coffa mewn Gwyddelig - iaith yr ynys. Mae straeon dirdynol am ferched yn crwydro'r traethau yn chwilio am ddarnau o gyrff drylliedig eu hanwyliaid wedi damweiniau yn stormydd yr Iwerydd yn rhan o wead chwedloniaeth yr ynysoedd. Ymddengys bod pob teulu gyda patrwm nodweddiadol i'w siwmperi Aran. Os oedd dyn yn cael ei golli ar y mor gellid adnabod corff trwy edrych ar y siwmper.



Dydd Mercher

Dod yn ol i’r tir mawr a mynd tuag at y Gogledd Orllewin. Aros tros nos yn nhref fechan Killibegs – porthladd pysgota mwyaf Iwerddon. Aros mewn gwely a brecwast – mae’n ymddangos bod perchenog y gwely a brecwast yn adnabod y bobl yr oeddem yn aros gyda nhw ar Inishmore. Fel y Gymru Gymraeg, mae cymunedau pysgota Iwerddon yn fyd bach.

Dydd Iau




Codi’n gynnar a gweld pysgotwyr yn trwsio eu rhwydi, yn glanhau’r cychod ac yn llwytho’r cychod gyda thanwydd. Teithio ymlaen i Gaeltacht Donegal. Y tirwedd unwaith eto’n ddigon cyfarwydd – mynyddig a chreigiog. Cerdded am ychydig filltiroedd ar hyd yr arfordir ac edrych i lawr clogwyni arfordirol mwyaf Ewrop – os ydi’r llyfrau twristiaid i’w credu o leiaf. Criw go fawr o Americanwyr yno ac un ohonyn nhw yn dathlu ei benblwydd gyda barbiciw.



Cymharol ychydig o Wyddeleg oedd i’w glywed yn Ne’r Gaeltacht, ond o yrru ymnellach i’r Gogledd roedd mwy o lawer i’w glywed. Aros gyda’r nos mewn pentref digon anghysbell – Gwyddeleg oedd iaith y teulu yr oeddem yn aros gyda nhw ac mewn Gwyddeleg oedd pawb ag eithrio ni yn sgwrsio.

Dydd Gwener y Groglith

Roedd hi’n weddol bwysig gadael y Weriniaeth ar y diwrnod yma gan bod pob tafarn wedi cau trwy’r dydd. Yn ffodus, dyma’r unig ddiwrnod o’r flwyddyn pan y bydd hyn yn digwydd. Felly, i ffwrdd a ni tuag at ddinas Derry. Ar y ffordd aros wrth adfeilion sy’n cael eu cysylltu gyda Sant Columba. Ceir gweddillion eglwys sy’n cynnwys y maen y ganwyd y sant arno. Ymddengys bod marched beichiog yn mynd yno i weddio. Yn ol pob golwg mae hefyd yn arfer i adael pethau yno – pres, cerfluniau a lluniau crefyddol, rosaries, morthwyl sinc, cardiau gyda gweddiau arnynt, lluniau crefyddol, medalau chwaraeon ymysg pethau eraill.



Hefyd roedd carreg a adwaenir fel carreg gofidiau – the stone of sorrows. Roedd pobl yn mynd yno yn aml cyn ymfudo. Roedd gweddio yno yn gwneud y gweddiwr yn llai tebygol o ddioddef o hiraeth ac a barnu oddi wrth yr holl bres oedd wedi ei adael mewn tyllau yn y garreg, roedd gadael ceiniog neu ddwy yn helpu hefyd. Roedd stribedi browngoch ar hyd y garreg lle’r oedd copr o’r pres a rhwyd wedi rhedeg yn y glaw.



Wedi cyrraedd Derry mynd am dro i’r Bogside. Gellir dadlau mai dyma grud y tri degawd o ymladd a gafwyd yn y Gogledd ar ddiwedd y ganrif diwethaf. Yn sicr, yma y digwyddodd rhai o’r digwyddiadau arwyddocaol ym mlynyddoedd cynnar y rhyfel.

Mae’r ardal lle’r arferai Rossville Flats sefyll (a lleoliad cyflafan Bloody Sunday) yn ddiddorol oherwydd y cofebau i gwahanol ddigwyddiadau yn hanes y Gogledd sydd i’w gweld yno a’r murluniau anferth trawiadol sy’n dylunio gwahanol ddigwyddiadau yn hanes y ddinas. Mae arddull y murluniau yn gwahanol i rai mewn rhannau eraill o’r Gogledd – maent yn ddi addurn ac yn gynrychioliadol iawn – yn edrych braidd fel lluniau mewn papur newydd. Erbyn deall o sgwrs gydag un o’r artistiaid, dyna’n union beth ydi llawer ohonynt. Ymddengys bod y llun eiconig o fachgen yn gwisgo mwgwd nwy ac yn dal bom petrol wedi ei gopio’n syth o lun mewn papur newydd. Ail hawlio’r ddelwedd oedd wedi ei dwyn oddi wrth y Bogside. Roedd brawd yr artist yn flin mai waliau Derry – sydd yn edrych i lawr ar y Bogside oedd, yn ol Bwrdd Twristiaeth y Gogledd, yr atyniad twristiaid mwyaf yn y dalaith. Yn ei farn o, dod i edrych ar y lluniau mae’r twristiaid.

Mae lluniau eraill o flynyddoedd cynnar yr ymladd yn Derry, Bernadette Develin, megaffon yn ei llaw, yn annog ymladd yn y strydoedd, Thomas O’Fiach, oedd i arwain yr Eglwys yn yr ynys yn ddiweddarach yn cario hances wen ac yn arwain dynion oedd yn cario corf Jackie Duddy (?) trwy’r tanio ac i gyfeiriad ambiwlans.





Ar y ffordd o’r Bogside aros yn Nhafarn y Peadar O’Donnell ar Waterloo Street. Tafarn addurniedig iawn, a thafarn wedi ei addurno yn rhannol gan hetiau bowler a sashes. Yn groes i’r hyn y byddai dyn yn ei ddisgwyl nid tafarn Unoliaethol ydyw. Wedi eu dwyn mewn gwrthdaro ar strydoedd Derry tros y blynyddoedd mae’r pariffenalia Oren.



Dydd Sadwrn

Cael brecwast mawr am £2 ar William Street. Mae’r caffi yn ddiddorol oherwydd y nifer fawr o ffotograffau du a gwyn o ddigwyddiadau yn hanes diweddar y ddinas sydd wedi eu fframio ar y waliau.

Cychwyn i gyfeiriad Belfast ar ol brecwast, aros am ychydig yn Belaghy i weld bedd Francis Hughes a Tom Mcelwee, dau gefnder a fu farw yn ystod yr ymprydio yn 1981.



Ymweld a chanol y ddinas. Mae’n ddiddorol nad oes neb yn y canol yn gwisgo unrhyw beth sy’n rhoi awgrym o’u crefydd na’u gwleidyddiaeth. Digon o bobl ifanc wedi gwisgo mewn arddull Goth, ond dim crysau Rangers na lili’r Pasg. Ychydig ganoedd o latheni o’r canol, lle mae pobl yn byw mae gweld pobl yn gwisgo mewn ffordd sy’n dynode eu cefndir llwythol yn gyffredin iawn. Mae pawb yn derbyn mai tir neb ydi’r canol. Aros am beint yn y Crown Liquor Saloon.



Mynd am beint gyda’r nos, a gorffen y noswaith yn rhai o’r tafarnau sydd yn y canol ond sydd yn agos at lle mae’r Falls yn ymuno a chanol y dref. Eto dim arwyddion o gefndir llwythol pobl, ond roedd yn weddol amlwg mai Pabyddion oedd pawb yn yr adeilad. Cael tacsi yn ol i ben y Shankhill – yno roeddem yn aros.





Dydd Sul

Sul y Pasg ar y Falls. Mae gorymdeithiau i gofio Gwrthryfel 1916 yn digwydd ar hyd a lled Iwerddon ar Sul y Pasg. Yr orymdaith ar y Falls ydi’r fwyaf, ac nid gwrthryfel 1916 oedd prif ffocws y cofio yma. Mae canoedd o dricolas ar dai ac adeiladau cyhoeddus, ceir cerddoriaeth gweriniaethol yn cael ei chwarae o stondinau ar y palmant.



A bod yn fwy manwl mae nifer o orymdeithiau ar y Falls ar ddydd Sul y Pasg. Y gyntaf ydi un yr INLA / IRSP. Ag ystyried mor aneffeithiol oedd y mudiad yma erbyn dyddiau olaf y rhyfel, roedd yr orymdaith yn hynod drefnus – a chymharol niferus o ran pobl oedd yn cymryd rhan yn y digwyddiad.

Digwyddiad y National Graves Association sy’n cael ei gydnabod gan Sinn Fein – y sefydliad gwleidyddol yn y Belfast Babyddol bellach. Roedd y digwyddiad hwn yn anferthol gyda miloedd ar filoedd o bobl yn tywallt fel afon i fyny’r Falls i gyfeiriad mynwent Milltown a’r beddi Gweriniaethol sydd yng nghanol y fynwent. Roedd dwsinau o fandiau o pob rhan o’r Iwerddon, ac o’r Alban, perthnasau i bobl oedd wedi marw yn ystod y rhyfel yn cario torchau o flodau a lluniau o’u perthnasau – a miloedd ar filoedd o bobl yn eu canlyn.





Gorfod brysio'n ol tua Dulyn - aros am ysbaid yn Crossmaglen - llygad y storm yn Ne Armagh am ddegawdau. Ychydig o olion y rhyfel ar ol - hyd yn oed y sefydliad milwrol enfawr ar gae'r GAA yng nghanol y pentref wedi mynd bellach. Wythnos oedd ers i'r fyddin Brydeinig adael De Armagh - ond roedd y digwyddiad eisoes yn cael ei ddathlu ar arwyddion yn y pentref - arwyddion sy'n defnyddio ieithwedd chwerw, di gyfaddawd y rhan yma o'r byd.




Y gofeb enwog i'r ymprydwyr newyn yn dal i'w gweld ger Cullihana serch hynny.



Yna gwneud ein ffordd yn ol i Ddulyn ar hyd y draffordd newydd gyflym.

No comments: