Thursday 23 December 2010

Ballycastle

x
Mi ddisgrifiodd rhyw foi mewn tafarn yn Ballycastle y dref yn y termau hyn - Mae fel petai rhywun wedi mynd at dref bach yng Ngorllewin Iwerddon, yn Galway neu Kerry efallai, yc wedi ei godi, ei symud i ochr arall y wlad a'i ollwng. Ac mae yna lawer iawn o wirionedd yn yr hyn mae'n ei ddweud - o ran diwylliant mae'r dref yma yn hynod Wyddelig, ond mae wedi ei lleoli yng Ngogledd Ddwyrain yr ynys. Mae llawer o'r ardal arbennig - Moyle - wedi bod a phoblogaeth Pabyddol erioed, er iddi gael ei hamgylchu gan rai o'r ardaloedd mwyaf di gyfaddawd o Unoliaethol yng Ngogledd Iwerddon. Mae Moyle yn etholaeth Ian Paisley, North Antrim. Mae'r ardal yn un hynod o drawiadol, gyda thir arfordirol nodweddiadol o Orllewin Iwerddon a dyffrynoedd anghysbell gyda choedwigoedd, afonydd, llwybrau a golygfeydd.

Torr Head ydi'r lle agosaf yn Iwerddon at dir mawr yr Alban - maent tua deuddeg milltir oddi wrth ei gilydd. Mae'r ardal yn enwog ar bysgota eog a gellir gweld rhwyd wedi ei osod ar draws y bae i ddal eogiaid sy'n dychwelyd o'r mor mawr i afonydd eu cynefin er mwyn dodwy. Ceir planhigion Fuchsia - mewnfudwyr o blanhigion sy'n hoff iawn o dir arfordirol lle nad ydi'r tywydd yn eithafol o oer yn aml. Mae gorsaf gwylwyr y glanau sy'n dominyddu'r penrhyn wedi ei leoli ar safle hen gaer, ac mae yna feddi neolithic yn yr ardal hefyd.


Nodwedd arall o'r ardal ydi Ynys Rathlin oddi ar arfordir y Gogledd. Mae'r Ynys yn enwog yn hanes Iwerddon oherwydd cyflafan a ddigwyddodd yno yn 1642. Mae yna rai canoedd o bobl yn byw ar yr ynys o hyd. Tua phymtheg milltir yn unig ydyw o dir mawr yr Alban. Mae'r lle yn enwog am ei hadar ac am ei chlogwynni.












No comments: