Saturday 5 July 2008

Gwibdaith i Stirling


Aros yn Stirling am ychydig nosweithiau. Tref o tua deugain mil sydd wedi ei lleoli mewn man strategol bwysig. Dyma'r lle mwyaf hawdd i groesi'r Afon Forth - felly Stirling oedd y porth i ucheldiroedd yr Alban. Ymladdwyd nifer o frwydrau tyngedfenol yma ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys buddigoliaethau mawr William Wallace ym Mrwydyr Stirling Bridge a Robert the Bruce yn Bannockburn. Ymddengys bod brwydr anferth rhwng y Celtiaid a'r Pictiaid wedi ei hymladd yn yr ardal yn y gorffennol pell.

Tref ddosbarth gweithiol ydi Stirling sydd yn draddodiadol wedi bod yn gefnogol iawn i'r Blaid Lafur - ond sydd wedi troi i gyfeiriad yr SNP yn ddiweddar - fel nifer o drefi tebyg iddi. Fel y gellid disgwyl mewn man strategol bwysig ceir castell - Castell Stirling - yr unig adeilad sy'n dal i sefyll yn y Deyrnas Gyfunol ag eithrio Abaty Westminster lle mae brenin wedi ei goroni (Iago'r Chweched o'r Alban).



Hwyrach mai'r adeilad mwyaf cofiadwy yno fodd bynnag ydi cofeb William Wallace. Adeiladwyd y strwythur yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mae'n adeilad trawiadol sy'n cynnig golygfeydd arbennig o Stirling a safle buddugoliaeth fawr Wallace. Ceir hefyd arddangosfa o eitemau oedd mae'n debyg yn perthyn i Wallace - gan gynnwys ei gleddyf anferthol.



Lleolir Stirling ar Afon Forth, ac mae'n sefyll ar le oedd yn hanesyddol o'r pwys strategol mwyaf - y prif groesfan o'r Iseldiroedd i'r Ucheldiroedd. Ceir golygfa wych o leoliad gwreiddiol Pont Stirling o'r bryn y codwyd Cofeb Wallace arno - ac roedd meddiannu'r darn hwn o dir yn hanfodol os am atal byddinoedd rhag croesi o'r Iseldiroedd i'r Ucheldiroedd.



Mynd i Glasgow y diwrnod wedyn. 'Dwi wedi 'sgwennu cyfraniad ar fy mlog gwleidyddol am rhan o'r ymweliad hwnnw. Gellir ei ddarllen ar flogmenai

Ar y diwrnod olaf mynd i brif ddinas yr Alban, Caeredin. Mae'r dref yma'n dra gwahanol i Glasgow - mae llawer mwy o gyfoeth yn perthyn iddi am un peth. Mae hefyd yn ddinas drawiadol ac unigryw - yn sicr mae ei stryd fawr yn dra gwahanol i strydoedd mawr y rhan fwyaf o ddinasoedd y DU - sydd yn edrych yn rhyfeddol o debyg i'w gilydd erbyn heddiw.

Cychwyn y diwrnod yn Senedd yr Alban - Holyrood. Mae'n adeilad anferth, hynod drawiadol a drud iawn - drytach o lawer nag adeiliad y Cynulliad Cenedlaethol. Yn anffodus nid oedd y Senedd yn eistedd yn ystod ein hymweliad ni. Serch hynny mae amgueddfa bach digon diddorol yn y cyntedd.

Llun o siambr y cyngor ydi'r isod.



Ceir llun yma o lyfr cofnodion hen senedd yr Alban - yr un a ddiddymwyd yn 1707 gyda'r Ddeddf Uno. Mae'r cofnod yn dod i ben ar ganol brawddeg - mae'n debyg oherwydd iddo darro'r clerc na fyddai'n cael ei dalu am ei waith wedi i'r Senedd gael ei ddiddymu.



Isod ceir llun o lofnodau a sel y sawl a arwyddodd y Ddeddf.



Beth bynnag, wedi cerdded i fyny'r Golden Mile daethom at dafarn hynod chwaethus - y Scotsman's Rest - a dyna'r peth diwethaf 'dwi'n ei gofio.

No comments: