Mae'r ddinas yn anhygoel - o ran ei phoblogaeth enfawr, fel canolfan fasnachol nad oes prin ei thebyg a fel canolfan sydd wedi ei lleoli ar hen faultline diwylliannol a gwleidyddol pwysig.
Istanbul ydi hen ganolfan yr Eglwys Uniongred. Daeth yr Eglwys i fodolaeth pan holltodd yr Ymerodraeth Rufeinig hollti yn 392OC. Goroesodd yr Ymerodraeth Ddwyreiniol am ganrifoedd wedi i'r un Orllewinol gael ei chwalu.
Fel y gellid disgwyl roedd ymerodraeth yn gysylltiedig a'r Eglwys - yr Ymerodraeth Byzantine - ymerodraeth eithaf llwyddiannus a oroesodd nes i'r Mwslemiaid gymryd Istanbul ym 1453 - neu Constantinople fel adwaenid y ddinas ar y pryd.
Wedi buddigoliaeth y Mwslemiaid daeth yn ganolfan un o ymerodraethau mwyaf llwyddiannus a hir ei bywyd yn hanes - yr Ymerodraeth Ottoman. Goroesodd yr ymerodraeth Fwslemaidd yma o 1299 i 1923.
Hwyrach mai'r peth sy'n tarro dyn gyntaf wryh ymweld a'r ddinas ydi'r ffaith bod olion hanes cyfoethog y lle yn amlwg iawn yn adeiladau a phensaernaeaeth canol y ddinas - hynny yw yn y rhan Ewropeaidd. Mae Istanbul yn unigryw fel dinas fawr yn y ffaith ei bod yn sefyll ar ddau gyfandir. Mae'r rhannau sydd i'r Gorllewin o'r Bosphorus yn Ewrop, tra bod y rhannau sydd i'r Dwyrain yn asia. Yn rhyfedd braidd ceir ymdeimlad mwy Asiaidd i'r rhan Gorllewinol - mae'n hen iawn - bwrdeisdrefi modern anferth sy'n nodweddu'r Dwyrain yn amlach na pheidio.
Efallai mai'r lle gorau i weld yr amrywiaeth yn hanes diwylliannol y ddinas ar ei finiocaf ydi trwy ymweld a Sgwar Sultanahmet. Ar un ochr i'r sgwar ceir un o eglwysi mwyaf, a mwyaf hynod y byd - Hagia Sofia. Eglwys Uniongred oedd hon yn nyddiau'r Ymerodraeth Byzantine, wedi cwymp y ddinas i'r Mwslemiaid daeth yn fosg. Erbyn heddiw mae'n amgueddfa sy'n adrodd peth o hanes y ddau draddodiad.
Ar yr ochr arall i'r sgwar ceir adeilad enfawr arall - Mosg Glas. Mae'r adeilad yma eto ymysg y mwyaf o'i fath yn y byd - ac mae'n adeilad gwirioneddol drawiadol o'r tu mewn a'r tu allan. Mae fel petai'r ddau draddodiad crefyddol mawr yn Ne Ddwyrain Ewrop - Mwslemiaeth ac Uniongrededd - yn dod wyneb yn wyneb ar draws y sgwar dinesig yma.
Mae Istanbul, ac yn wir Twrci yn gyffredinol yn wladwriaeth digon diddorol o safbwynt crefyddol. Mwslemiaid ydi'r mwyafrif llethol o'r boblogaeth y wlad erbyn heddiw - tua 99%. Mae gweddill y boblogaeth yn amrywiaeth o Gristnogion ac Iddewon. Twrci ydi'r unig wlad Foslemaidd sydd a seciwlariaeth yn rhan o'i chyfansoddiad - a maent yn cymryd seciwlariaeth o ddifrif. Mae'n gyffredin i'r lluoedd diogelwch ymyrryd mewn gwleidyddiaeth pan maent o'r farn bod llywodraeth yn gogwyddo'n rhy agos at agenda grefyddol.
Mae'r traddodiad hwn yn mynd yn ol i ddyddiau Kemal Ataturk, arlywydd y wlad o 1923 i 1938 a phensaer gwladwriaeth fodern Twrci.
O gerdded o gwmpas y ddinas mae'r ddeuoliaeth yn drawiadol - ceir mosg ar bron i pob bloc - yn enwedig pan mae rhywun yn gadael y mannau twristaidd - ac mae'r ddinas yn cael ei boddi mewn swn llafarganu o'r mosgs sawl gwaith yn ystod y dydd. Mae'r rhan fwyaf o'r merched yn gwisgo mewn modd Mwslemaidd, yn arbennig y tu allan i'r canol - ond mae lleiafrif go sylweddol yn gwisgo'n Orllewinol. Ac wedyn i ychwanegu at y lliw mae yna'r man mynwentydd o gwmpas y ddinas i gyd.
Nid deuoliaeth rhwng Cristnogaeth a Mwslemiaith yn unig a geir. Mae mwy nag arlliw o werthoedd seciwaraidd hefyd gyda siopau betio, a chryn dipyn o buteindra mewn rhannau o'r ddinas megis y strydoedd bychan sydd o gwmpas sgwar enfawr Taksim.
Yr hyn sy'n drawiadol efallai ydi mor agos ydi llefydd o gymeriad hollol gwahanol at ei gilydd. Ceir ardaloedd dosbarth gweithiol tlawd iawn o fewn ychydig latheni i strydoedd metropolitaidd hynod gyfoethog - a'r mwyaf tlawd ydi ardal y mwyaf Mwslemaidd ydi hi o ran cymeriad.
Dau le arall sy'n werth ymweld a nhw ydi'r ddau balas enfawr yn y ddinas - Plas Topkapi canolbwynt yr Ymerodraeth Ottoman.
Y llall ydi Plas Dolmabah a leolir ar lan yr Afon Bosphorus. Adeiladwyd y lle gan Sultan Abdülmecid yng nghanol y ddeunawfed ganrif - ac mae'n gwahanol iawn o ran arddull - mae'n llawer mwy Ewropiaidd na'r Topkapi. Mae'n debyg mai gyda Ataturk y cysylltir y lle mwy na neb oherwydd mai dyma ei bencadlys fel arlywydd.
Golygfa o'r Bosphorus o Dolmabah.
Er mor drawiadol golygfeudd Istanbul, yr hyn sy'n ei gwneud yn wirioneddol drawiadol ydi'r ffaith ei bod yn ganolfan brynu a gwerthu heb ei thebyg. Gellir gweld canoedd o longau cargo ar hyd y Corn Aur yn disgwyl i dderbyn caniatad i ddocio.
Yn y ddinas ei hun gellir prynu bron iawn i unrhywbeth - o Kalashinikov i Viagra. Efallai mai'r symbol amlycaf o'r diwilliant prynu a gwerthu hwn ydi'r Grand Bazaar. Mae'r lle yn anhygoel - labarynth di ddiwedd o sefydliafau sy'n gwerthu aur, arian, gemwaith, lledr, carpedi a mwy neu lai unrhyw beth y gellid meddwl amdano. Ac wedyn mae yna'r Spice Bazaar, sy'n llai na bwystfil y Grand Bazaar - ond sydd yr un mor drawiadol.
Golygfa o'r Spice Bazaar.
Fel yn y rhan fwyaf o siopau neu lefydd marchnata yn Nhwrci, does yna ddim pris am bethau fel y cyfryw - rhaid dod i gytundeb am bris - ac mae'r broses yma'n gelfyddyd ynddi ei hun - ac yn hwyl i'r sawl sydd yn ymddiddori mewn haglo.
Ond, fel y dywedais gellir prynu unrhyw beth - dyma lun neu ddau i brofi'r pwynt:
Os am brynu - yn arbennig felly dillad, carpedi, nwyddau lledr ac at mae Istanbul yn lle heb ei ail. Ac mae'r prynu yn ddiddorol hefyd - yn amlach na pheidio rhywbeth i'w drafod ydi'r pris - gellir disgwyl gostwng y pris o tua thraean ar ol dipyn go lew o ddadlau - ac yfed te. Te ydi'r olew sy'n irio trafodaethau - os ydych yn prynu carped gellir disgwyl tair neu bedair neu bump paned yn ystod trafodaethau o awr neu naw deg munud yn aml.
Un peth bach arall cyn gorffen - mae'n rhyfeddol bod cymaint o fasnachwyr yn Istanbul nid yn unig yn gwybod lle mae Cymru, ond sy'n gallu siarad gair brawddeg neu ddwy yn y Gymraeg - mwy o lawer na masnachwr o Gaer.
Monday, 21 July 2008
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment