Treulio'r diwrnod cyntaf yn Perigueux, tref eithaf sylweddol gyda thua 65,000 o drigolion. Fel llawer o drefi Ffrengig mae darnau hynafol iawn iddi - yn yr achos yma mae rhannau o'r dref yn mynd yn ol i'r cyfnod Rhufeinig. Yn anffodus nid oedd y lle ar ei orau ar y diwrnod yr oeddem ni yno gan iddi biso bwrw trwy'r dydd. Adeilad mwyaf trawiadol y dref yw eglwys gadeiriol y Cathederale St Front sydd a rhannau ohoni'n dyddio'n ol i'r ddegfed ganrif.
Un o leoedd prydferthaf Gogledd y Dordogne ydi Brantome - tref fechan ddeniadol wedi ei chodi o gwmpas afon. Nodwedd fwyaf trawiadol y dref ydi Abaty Benedictaidd sydd wedi ei adeiladu i mewn i'r graig.
Mae ogof gerllaw - mae cyfoeth o ogofau ar hyd De Ffrainc i'r sawl sy'n ymddiddori yn y ffurfiau naturiol sy'n cael eu creu mewn ogofau carreg galch ac yn y bobl gynnar oedd yn aml yn byw ynddynt.
Mae St John de Cole yn un o nifer o bentrefi hynafol a hardd iawn yng Ngogledd y Dordogne. Mae iddo gastell, sgwar prydferth, Eglwys sydd bron yn gwbl grwn (gyda Safleoedd y Groes y tu allan i'r adeilad)a strydoedd bach prydferth hynafol.
Dinas sylweddol o tua chwarter miliwn o bobl ydi Limoges. Mae'n ganolfan draddodiadol i gynhyrchu porselin ac enaml i gyfoethogion Ffrainc a thu hwnt - ac o sylwi ar y prisiau gallaf eich sicrhau mai ar gyfer pobl gyfoethog maent yn cael eu cynhyrchu ar y cyfan. Os oes gennych ddiddordeb yn y math yma o beth y cwrs callaf ydi ymweld a'r Musee National Adrien Dubouche.
Mae llawer o'r dref yn hynafol, ond y rhan mwyaf trawiadol efallai yw'r Rue de Boucheire, stryd a oedd yn y gorffennol wedi ei phoblogi yn bennaf gan gigyddion a'u teuluoedd. Yng nghanol yr ardal ceir capel bychan digon hardd - y Chapel St Aurlien. Sant Aurlien fe ymddengys yw nawdd sant cigyddion. Mae'r capel wedi ei gynnal gan gigyddion a'u teuluoedd o'r bymthegfed ganrif hyd heddiw.
Castell o gyfnod y Dadeni yw Chateau Puyguilhem sydd wedi ei leoli wrth ymyl coedwig dderw hyfryd. Mae iddo nenfwd o ddistiau derw trawiadol.
Rhywbeth tebyg i Sain Ffagan ydi Le Village Bournat - ond heb fod cystal o lawer. Serch hynny mae digon i'w wneud yno i lenwi diwrnod - os ydi'r tywydd yn braf. Mae'r parc yn Ne'r Dordogne a chryn bellter o'r lleoedd rwyf eisoes wedi son amdanynt.
Rhywle arall yn ne'r Dordogne ydi'r em o dref - Sarlat Yr unig anfantais i'r lle yma ydi ei bod yn gallu bod yn llawn iawn yn yr haf, ond ceir amrywiaeth sylweddol o dai bwyta, siopau diddorola stondinau marchnad yma mewn lleoliad diddorol a chanol oesol.
No comments:
Post a Comment