Monday, 23 July 2007

Yr Ardeche

Cof am daith a Ardèche Gorges yn haf 2005 ydi'r isod. Fe'i lleolir i'r gogledd orllewin o Montpelier yn yr ardal a adwaenir fel yr Ardeche.



Carreg galch a geir yn y rhan yma o'r Ardeche. Mae'r Afon Ardeche wedi bwyta dyffryn trawiadol yn y garreg galch - mae'r clogwyni serth yn ymestyn cymaint a 300m uwchlaw'r afon mewn rhai lleoedd.



Mae ogofau yn gyffredin iawn yn y math yma o dir, ac mae digon o dystiolaeth o gymunedau dynol hynafol iawn, sy'n mynd yn ol o leiaf i'r cyfnod. Uwch Baleolithic

Llun o un o'r ogofau enwocaf a harddaf, sef Les Grottes de Saint-Marcel a geir isod.



Mae'r tirwedd yn hynod o drawiadol, fel y gwelir yn aml mewn tiroedd carreg galch. Bwa enfawr o'r enw Le Pont d'Arc a geir isod - canolfan ganwio o gryn faint.



Ag eithrio canwio a beicio mae ambell i beth allan o'r cyffredin i'w gwneud. Canolfan dringo coed ydi hon - gwithgaredd hollol saff gan bod y dringwr wedi ei ddal mewn harnes - ond mae angen stumog eithaf cryf i ymgymryd a rhai o'r gweithgareddau.

Collioure

Cof am daith a Collioure yn haf 2005 ydi'r isod. Mae Collioure ar arfordir rhan Ffrangeg Catalonia ychydig filltiroedd o'r ffin.



Dawns Gatalaneg yn yr awyr agored mewn pentref glan mor o'r enw Collioure, ddim ymhell o'r ffin rhwng Ffrainc a Sbaen. Fel sy'n digwydd ym mhob pentref neu dref yn Ffrainc yn ol pob golwg, mae gwyl haf yn mynd rhagddi.

Mae miloedd o bobl yn y dref. Erbyn yr hwyr, nid oes modd parcio car am filltiroedd y naill ochr i'r pentref na'r llall. Mae'r traethau, y creigiau, tir y castell - neu unrhyw dir agored arall yn llawn o bobl yn cael picnic. Mae'r bariau'n llawn, ac yn anarferol i Ffrainc, mae llawer o'r llymeitwyr wedi meddwi. Mae'r strydoedd culion yn llawn pobl - thai'n ymwelwyr fel ni, ond mwy o lawer yn Gatalanwyr sydd wedi dod i lawr o fynyddoedd y Pyranis gerllaw.



Mae'r strydoedd yn for o weithgaredd - bandiau pres o gwahanol bentrefi, grwpiau pop, sioe dan gwyllt, stondinau diod dros dro ar hyd y strydoedd, a dawnswyr yn dawnsio i gyfeiliant y bandiau pres.

Dawnsio Catalaneg ydi o - ac mae rhywbeth ad hoc amdano. Band yn dechrau chwarae a dau neu dri o bobl yn ffurfio cylch bach, ac yn dechrau dawnsio. Yn raddol mae mwy a mwy o bobl yn ymuno, ac mae cylchoedd eraill yn ymddangos. Mae'r symudiadau'n aml yn ymwneud a'r traed a'r dwylo, ac maent yn weddol fan at ei gilydd - ond maent wedi eu sincrineiddio'n dwt. Mae pobl o bob oed yn cymryd rhan - o bensiynwyr i blant eithaf man. Yr oedolion yn weddol sicr eu troed, y plant yn edrych ac yn efelychu.



Diwylliant ar waith efo twristiaid o bedwar ban byd yn edrych. Diwylliant ar waith -pont bach rhwng y gorffennol a'r dyfodol yng ngwres noswaith yng Nghatalonia - pont ar ffurf cylch.

Cyflwyniad

Blog bach sy'n son ambell i daith yma ac acw.