Ymweliad arall ag Iwerddon - Munster y dalaith ddeheuol oedd y cyrchfan y tro hwn.
Cychwyn yn Waterford - y bumed ddinas fwyaf yn Iwerddon a'r hynaf. Yn y gorffennol Waterford fyddai'r ail ddinas fwyaf - yn 1831 roedd ganddi boblogaeth o 304,468. Cwympodd y boblogaeth yn raddol i 127,586 erbyn 1937 cyn cynyddu'n raddol nes cyrraedd 164,235 yn 2001.
Fel nifer o ddinasoedd Iwerddon, dinas wedi ei sefydlu gan y Llychlynwyr ydi Waterford. Y ffaith ei bod yn hawdd adeiladu porthladd sylweddol ar yr Afon Suir oedd prif ddiddordeb y Llychlynwyr yn y lle. Mae cryn dipyn o gloddio wedi bod i ymchwilio i hanes a cyfnod ac mae miloedd lawer o arteffactau wedi eu darganfod o ganlyniad i'r cloddio a ddigwyddodd pan oedd y ganolfan siopa modern yng nghanol y dref yn cael ei godi.
Ers hynny mae rhai o'r datblygiadau oedd i fod i'w codi yn agos at y canol wedi eu hatal - 'dydi'r datblygwyr ddim yn fodlon mentro cychwyn ar bethau pan bod posibilrwydd cryf y bydd mwy o arteffactau yn cael eu darganfod ac y caiff pethau eu dal yn ol am flynyddoedd tra bod yr archeolegwyr yn gorffen eu gwaith.
Dyn o'r enw John Roberts sydd yn gyfrifol am gynllunio y rhan fwyaf o brif adeiladau'r ddinas. A barnu oddi wrth ei enw mae'n debygol ei fod gyda rhyw fath o gefndir Cymreig - ac mae'r ffaith ei fod yn Brotestant yn gwneud hynny'n fwy tebygol eto. Llun o'i gartref sydd isod.
Mae dwy eglwys gadeiriol yn y ddinas - un Brotestanaidd ac un Babyddol. The Cathedral of the Most Holy Trinity ydi'r eglwys gadeiriol Babyddol hynaf yn yr Iwerddon. Cafodd ei hadeiladu yn 1796 (a'i chynllunio gan John Roberts). 'Does yna ddim hen eglwysi adeiriol Pabyddol yn Iwerddon wrth gwrs - nid oedd yn gyfreithiol i'w hadeiladu tan ddiwedd y ddeunawfed ganrif.
John Roberts oedd yn gyfrifol am gynllunio Christ Church - yr eglwys gadeiriol Brotestanaidd hefyd. Yn 1779 y gorffenwyd y gwaith o adeiladu hon. Yn anffodus braidd cafodd eglwys gadeiriol gothic enfawr ei chwalu gan ffrwydrolion i wneud lle iddi hi.
Mae fy mlog ar dafarnau yn rhoi gwybodaeth ynglyn a thafarn y Thomas Maher - o bosibl yr unig dafarn yn Ynysoedd Prydain sy'n gwrthod mynediad i ferched.
Gwneir cryn dipyn o gefndir canoloesol y ddinas fel ffordd o farchnata'r lle a dennu twristiaid - ceir cyfres o luniau o gwahanol bobl mewn swyddi o'r cyfnod ar hyd rhai o waliau'r dref.
Mynd ymlaen i Dde Cork o Waterford. Aros ar y ffordd i weld mynwent ym mhentref Timoleague Mae'n weddol gyffredin i weld hen fynachlog neu eglwys gyda beddi y tu mewn iddi - ac arwyddion ar y waliau yn rhybuddio pobl rhag agor beddi heb ganiatad y sawl sy'n gyfrifol am y fynwent.
Trwy gyd ddigwyddiad rhyfedd roedd nifer fawr o'r beddi yn perthyn i bobl efo'r cyfenw Sexton. Mae'r cyfenw yn un rhyfedd galwadigaethol - felly mae'n anodweddiadol o rai Gwyddelig - arfer Seisnig ydi enwi pobl ar ol eu swydd. Serch hynny mae yna ddynes yn byw i fyny'r lon o lle rydym ni'n byw sydd fel y Mrs yn dod o Gaerdydd, a sydd fel y Mrs o gefndir Gwyddelig. O Dde Cork y daeth llawer o gymuned Wyddelig Caerdydd yn ystod y Newyn Mawr - ymddengys mai un o ardal Timoleague ydi Mari yn wreiddiol.
Mynd ymlaen i ddreifio o gwmpas De Cork wledig. Roedd y lle'n enwog yn ystod Rhyfel y Black & Tan a'r Rhyfel Cartref oherwydd bod llawer iawn o ymladd - mwy mae'n debyg nag yn unrhyw le arall ag eithrio'r canolfannau trefol mawr. Mae cofgolofnau'r ardal yn adlewyrchu hynny.
Cofebau i'r Kilmichael Ambush ydi'r ddau lun cyntaf pan laddwyd 17 aelod o'r fyddin Brydeinig yn 1920 gan uned enwog o'r IRA a arweinid gan Tom Barry.
Mae'r ysgrifen ar yr ail golofn - Command Post West Cork Brigade Flying Column IRA. And On This Road Too Died 17 Terrorist Officers Of The British Forces 28/11/1920 - yn rhoi syniad i ni o chwerder y cyfnod.
Cornel filwrol ym mynwent un o fan drefi'r ardal ydi'r llun isod. Maen nhw'n gyffredin yn y trefi bychain ar hyd a lled yr ardal.
Cofgolofn i aelodau'r IRA ar Stryd Fawr tref Bandon ydi'r isod.
Ac yn olaf y fan lle lladdwyd arweinydd byddin y Wladwriaeth Rydd, Michael Collins, gan Wereniaethwyr yn Béal na mBláth yn 1922.
Ymweld a dinas Cork nesaf - ail ddinas Iwerddon - a dinas efo hanes digon cythryblus. Llosgwyd canol y ddinas yn ystod Rhyfel y Black & Tan gan luoedd diogelwch Prydain, llofruddwyd un Arglwydd Faer gan y Prydeinwyr a llwgodd ei olynydd ei hun i farwolaeth ngharchar Brixton ac roedd y ddinas yn nwylo'r IRA am gyfnod yn ystod y Rhyfel Cartref.
Mae yna amgueddfa digon diddorol yn y ddinas. Pan roeddym ni yno roedd yna arddangosfa yn ymwneud a bywydau teithwyr - neu a defnyddio'r term anghwrtais knackers yn ogystal a'r un arferol ar hanes y ddinas.
Heb fod ymhell o'r amgueddfa mae cyn garchar y ddinas wedi ei lleoli. Ceir arddangosfa digon diddorol yno - tysteb i oes cwbl wahanol o ran agweddau at ymdrin a drwgweithredwyr.
Wedyn symud ymlaen i Orllewin Kerry - roeddym yn aros mewn bwthyn bach ar gyrion tref Killorglin. Mae llai na 2,000 o bobl yn byw yn y dref yma - ond fel gyda llawer o fan drefi yn yr Iwerddon mae ganddi fwy na'i siar o dafarnau.
Roedd etholiad rhyw ddeufis i ffwrdd pan roeddem yno - ac mae rheolau llym iawn yn Iwerddon ynglyn a rhoi posteri etholiadol i fyny yn ystod etholiadau - ceir dirwyon os ydi'r posteri i fyny cyn dyddiad arbennig ac os ydynt i fyny ar ol dyddiad rbennig. Y rheswm am hyn ydi bod pob wyneb sy'n gallu cymryd poster wedi ei blastro yn ystod etholiad Gwyddelig - ac o gael llonydd fyddai pobl ddim yn trafferthu eu tynnu nhw i lawr. Felly roedd pobl wedi dod o hyd i ffyrdd o gael eu posteri i fyny - trwy hysbysebu 'cyfarfodydd cyhoeddus', ymweliadau gan yr ymgeisydd a thrwy roi lluniau wedi eu fframio ohonynt mewn tafarnau.
Beth bynnag, mae Killorgin ychydig i'r Dwyrain i un o'r ardaloed mwyaf trawiadol yn Iwerddon o ran golygfeydd - The Ring of Kerry neu An Mhór Chuaird. Taith o gwmpas penrhyn ydi'r Ring - ac mae ymhlith atyniadau twristaidd mwyaf poblogaidd yr ynys. Mae'r daith yn mynd trwy'r trefi canlynol - Kenmare, Sneem, Watervill, Cahersiveen yn ogystal a nifer o rai eraill. Mae yna nifer sylweddol o bethau i'w gweld yno - dyma restr (yn y Saesneg yn bennaf - gormod o drafferth i'w cyfieithu):
Gap of Dunloe, Bog Village, Rossbeigh Beach, Cahersiveen Heritage Centre, Derrynane House, Skellig Experience, Staigue Fort, Kenmare Lace, Molls Gap, Ladies View, Torc Waterfall, Muckross House, The Blue Pool, Ross Castle, Ogham Stones, St Mary’s Cathedral, Muckross Abbey, Franciscan Friary, Kellegy Church, O’Connell Memorial Church, Eglwys a Mynwent Sneem, ynys hynod Skellig Michael, Beehive Cells a'r Stone Pileri Carreg sy'n nodi beddi pwysig. Y peth mwyaf trawiadol fodd bynnag ydi'r golygfeydd anhygoel.
Mae'r ardal yn rhyfedd ar sawl cyfrif - un peth anisgwyl ydi'r ffaith bod llawer o blanhigion yn tyfu yno sy'n gyffredin yn agos at For y Canoldir - ond sy'n hynod o anarferol yn Ynysoedd Prydain - mae De Orllewin Iwerddon yn gynnes. Rhywbeth arall tra anisgwyl oedd y ffaith bod yna chwarel lechi - ac un sy'n dal i weithio ar hynny yno. Fedrwn i ddim cweit credu'r peth - ond dyna chi - Chwarel Lechi yn Ne Kerry
Sylwer ar y cerflun o'r Forwyn Fair uwch mynedfa'r chwarel (uchod). 'Dydi hyn ddim yn gyffredin iawn yng Nghymru.
Cawsom hefyd gyfle i ymweld a thref Tralee - prif dref Kerry - ac un eithaf sylweddol ar hynny. Mae'r dref yma'n cael ei dominyddu'n wleidyddol gan dri theulu blaenllaw - y Springs (Llafur), y teulu Ferris (SF) a'r McEllistrims (FF). Plaid Ferris oedd fwyaf gweladwy ar ddiwrnod ein hymweliad ni.
Taith arall sy'n sicr werth ei gwneud un i Benrhyn Dingle. Dyma'r rhan mwyaf gorllewinol yn Iwerddon ac yn wir Ewrop gyfan. Os ewch chi ymhellach i'r gorllewin a mynd tros ferw'r Iwerydd gwyllt cewch eich hun yng Ngogledd America - a gwyllt ydir gair am ymdeimlad y darn yma o dir sy'n derbyn gwynt a glaw'r Iwerydd cyn unman arall yn Ewrop.
Llun o'r Mrs ydi'r isod ar un o draethau Dingle - roedd y rhan fwyaf o'r traethau yn gwbl wag pan oeddem ni yno yn ystod gwyliau'r Pasg.
Mae'r math yma o aneddau'n gyffredin iawn yn Ne Ollewin Iwerddon - ac yn hen iawn - strwythurau o'r Oes Efydd ydyn nhw. Hyd y gwn i dydyn nhw ddim i'w cael yn unman arall. Feu'i gelwir yn aneddau cwch gwennyn am resymau amlwg. Clochán ydi'r term Gwyddelig.
Ar y diwrnod olaf mi aethom i Ardfert, Listowel Fenit a Thraeth Banna. Mae i'r lle arwyddocad hanesyddol oherwydd i Roger Casement gael ei ddal a'i ddienyddio am geisio smyglo arfau i mewn i'r Iwerddon yn 1916. Cafodd un o aelodau seneddol presennol yr ardal - Martin Ferris ei ddal yn gwneud yr un peth tros i hanner canrif yn ddiweddarach. Cofeb i'r smyglwr arfau cynharach ydi'r isod:
I dref fechan mae gan Ardfert adfeilion rhyfeddol - Eglwys Gadeiriol Sant Brendan - nawdd sant morwyr a mynachdy Ffransiscaidd 'r drydydd ganrif ar ddeg. Lluniau o'r Abaty ydi'r pedwar canlynol:
A lluniau o Eglwys Gadeiriol Sant Brendan ydi'r pump yma:
Ar y noson olaf aethom am ychydig beintiau i dref Killorgin a dod ar draws y cyfaill hwn yn canu ei set yn un o dafarnau'r dref.
'Dwi ddim yn cofio ei enw, ond roedd ganddo amrywiaeth eang iawn o ganeuon Gwyddelig yn bennaf. Ychydig iawn oedd yn gwrando arno - ac roedd hynny'n anffodus - roedd yn dda iawn. Roedd yn gryn sioc gen i ddeall ganddo ar y diwedd mai bachgen o Norwy oedd, ond ei fod wedi priodi'n lleol.
Pentref bach iawn ydi Fenit ond mae ganddynt farina da yn ogystal a cherflyn o Sant Brendon yn edrych allan tua'r Iwerydd:
Mynd yn ol i gyfeiriad Dulyn ar y diwrnod olaf a mynd trwy dref hynafol Cashel - un o'r trefi hen ffasiwn hynny sydd mor nodweddiadol o drefi rhanbarthol Iwerddon - siopau hen ffasiwn lleol ac wrth gwrs castell enfawr - y Rock of Cashel y tro hwn - pencadlys brenhinoedd Munster yn ystod y canrifoedd cyn dyfodiad y Normaniaid:
Monday, 3 August 2009
Subscribe to:
Posts (Atom)